Cynllun £160m i ehangu gwesty
- Cyhoeddwyd

Mae Gwesty'r Celtic Manor yng Nghasnewydd wedi cadarnhau cynllun gwerth £160 miliwn i ehangu dros y deng mlynedd nesaf.
Dywedodd y perchnogion y bydd y cynllun yn creu 230 o swyddi newydd parhaol.
Bydd hefyd, medd y cwmni, yn creu 700 o swyddi adeiladu wrth wneud y gwaith a swyddi cyflenwi.
Yn rhan o'r cynllun, dywedodd y gwesty y bydd ganddo lein zip hiraf Ewrop ar agor erbyn diwedd yr haf.
Mae'r gwesty wedi sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer 40 o fflatiau newydd, ac maen nhw wrthi'n cwblhau cynlluniau ar gyfer 10 chalet moethus yn ogystal.
Cwpan Ryder
Dywedodd y perchennog, Syr Terry Matthews, bod y gwesty wedi bod yn "rhy lwyddiannus" yn ddiweddar.
Mae gan y gwesty 409 o ystafelloedd ar hyn o bryd, ond ar benwythnosau yn enwedig mae'r lle yn orlawn, ac mae'r gwesty wedi gorfod gofyn i westyau eraill yn yr ardal gymryd cwsmeriaid gan eu bod yn llawn.
"Mae hynny'n broblem os oes cynhadledd yn y gwesty a dim lle i gartrefu pobl. Dydyn ni ddim am roi'r argraff anghywir i gwsmeriaid," meddai Syr Terry.
"Mae'r sector lletygarwch ar draws Ewrop i lawr dros 10%, ond yma rydym wedi gweld cynnydd o 20%."
Daeth y Celtic Manor i sylw'r cyhoedd yn arbennig wrth gynnal cystadleuaeth golff Cwpan Ryder yn 2010.
Bydd y cynllun newydd yn y pendraw yn gweld 50 chalet moethus newydd ynghyd ag estyniad i'r prif westy.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2011
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2011
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2010