Chwilio am berthnasau dyn fu farw
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi gofyn am help y cyhoedd
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi gofyn am help wrth geisio dod o hyd i berthnasau dyn fu farw ym mis Mai.
Bu farw Royston George Bunting ar Fai 23 o achosion naturiol ac roedd yn byw yn Bachawy, Llandrindod.
Cafodd ei eni ar Orffennaf 6, 1937, yn Llundain.
Bu'n gwasanaethu yn yr Awyrlu cyn ymddeol yn 1990 ac fe gafodd ysgariad oddi wrth ei wraig yn 1980 yn ardal Berkshire.
Dylai unrhywun â gwybodaeth gysylltu â Chwnstabl 113 Wilson yng ngorsaf heddlu Llandrindod neu Gwnstabl 208 Lindsay yn swyddfa'r crwner naill ai drwy ffonio 101 neu 01267 222020 os yw'r galwr tu allan i ardal Heddlu Dyfed Powys.