Derwyddon yn cael sêl bendith UEFA
- Cyhoeddwyd

Mae Clwb Pêl-droed Derwyddon Cefn wedi cael caniatâd i gystadlu yng Nghynghrair Europa ym mis Gorffennaf.
Yn ôl rheolau corff rheoli pêl-droed Ewrop, UEFA, nid oes gan glybiau sydd ddim ym mhrif adran eu gwlad yr hawl i fod i geisio am drwyddedau.
Ond gall clybiau wneud cais am drwydded arbennig o dan amgylchiadau neilltuol.
Cyrhaeddodd y Derwyddon rownd derfynol Cwpan Cymru eleni yn erbyn Y Seintiau Newydd.
Gan mai'r Seintiau enillodd y bencampwriaeth, ac felly'n cynrychioli Cymru yng Nghynghrair y Pencampwyr, roedd lle i Dderwyddon Cefn yn y gystadleuaeth arall os oedd UEFA yn cymeradwyo hynny.
'Wrth ein bodd'
Bu swyddogion y clwb yn gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru er mwyn sicrhau bod y clwb yn cwrdd â'r safonau angenrheidiol, ac fe gyflwynwyd y dogfennau terfynol ar Fai 21.
Bellach mae ysgrifennydd cyffredinol UEFA, Gianni Infantino, wedi cadarnhau trwy lythyr i Brif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford, y bydd y Derwyddon yn cael cystadlu.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru: "Rydym wrth ein bodd bod Derwyddon Cefn wedi cael sêl bendith i gystadlu.
'Yn weithgar'
"Mae'r ffaith bod y tîm wedi bod yn weithgar o safbwynt trwyddedu dros flynyddoedd lawer wedi bod yn gymorth iddyn nhw ac maen nhw'n haeddu eu lle yng Nghynghrair Europa.
"Gobeithio y daw gemau ffafriol pan ddaw'r enwau o'r het, ac rydym yn dymuno pob llwyddiant i'r clwb."
Fe fydd yr enwau yn dod o'r het ar gyfer rowndiau rhagbrofol Cynghrair Europa ym mhencadlys UEFA yn Nyon, y Swistir, ddydd Llun, Mehefin 25.