Glaw yn rhwystro Morgannwg am y trydydd diwrnod

  • Cyhoeddwyd
Logo MorgannwgFfynhonnell y llun, Other

Doedd 'na ddim chwarae ar ddiwrnod olaf gêm Morgannwg yn erbyn Swydd Efrog ym Mhencampwriaeth y Siroedd ym Mae Colwyn ddydd Sadwrn oherwydd glaw trwm.

Sgoriodd Morgannwg 117 am dair wiced yn eu batiad cyntaf oddi ar ddim ond 34 pelawd ddydd Mercher.

Ond oherwydd y tywydd garw ni chafodd yr un bêl arall ei bowlio yn ystod y tridiau nesaf.

Mae Morgannwg ar waelod ail adran y Bencampwriaeth gyda 40 o naw gêm, 15 pwynt y tu ôl i Sir Gaerlŷr sydd yn yr wythfed safle.

Diwrnod cyntaf

Ar ôl galw'n gywir a dewis batio, fe sefydlodd y ddau agoriadol i Forgannwg bartneriaeth o dros hanner cant cyn i Will Bragg golli ei wiced am 20 rhediad oddi ar fowlio Mitchell Starc.

Yr un bowliwr oedd yn gyfrifol am gipio wiced Gareth Rees yn ei belawd nesaf i adael Morgannwg yn 58 am 2.

Ond heb os, siom fwya'r dydd i Forgannwg oedd colli wiced Marcus North.

Mae'r dyn o Awstralia wedi bod yn chwarae'n arbennig o dda yn ddiweddar, ond cafodd ei ddal oddi ar ei fowlio ei hun gan Rafiq.

Roedd Stewart Walters (37 heb fod allan) a Ben Wright (10 heb fod allan) yn batio, ac yn sefydlu partneriaeth dda.

Ond yn ystod chwarae'r prynhawn fe wnaeth y glaw roi'r gorau i'r chwarae am y dydd wedi dim ond 34 pelawd.

Pencampwriaeth y Siroedd - Morgannwg v. Swydd Efrog ym Mae Colwyn - Ail Ddiwrnod :-

Morgannwg -(batiad cyntaf) - 117 am 3

Swydd Efrog

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol