Marwolaeth mam: Dyn yn y llys
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 29 oed wedi bod yn Llys Ynadon Llandudno mewn cysylltiad â marwolaeth mam gafodd ei lladd pan oedd yn seiclo i'r gwaith.
Bu farw Susan Jane Griffiths, 47 oed o Ddwygyfylchi yn Sir Conwy, ger ei chartre' ar Ragfyr 9.
Mae Michael James Lundstrum o Ddwygyfylchi wedi ei gyhuddo o achosi ei marwolaeth tra oedd heb yswiriant, methu stopio ar ôl damwain, ffugio datganiad er mwyn cael yswiriant yn Hydref 2011, pan honnwyd nad oedd wedi cyfeirio at droseddau blaenorol, a bod â theiar diffygiol.
Cafodd fechnïaeth tan Awst 1.