Modelau'r Aifft 'yn hwb i fyfyrwyr' yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae casgliad gwerthfawr o dros 30 o wrthrychau Eifftaidd hynafol wedi ei roi ar fenthyg i brifysgol er mwyn annog myfyrwyr i ddilyn cwrs.
Canolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe sy'n benthyg yr eitemau oddi wrth Goleg Woking yn Surrey am 10 mlynedd yn y lle cyntaf.
Ymhlith y casgliad y mae dwy botel wydr (ar gyfer persawr neu golur o bosib) sydd, yn ôl y sôn, yn perthyn i'r cyfnod tua 100 CC-200 OC yn hanes yr Aifft, yr un cyfnod â Cleopatra.
Hefyd mae nifer o fodelau bach o weision 3,000 blwydd oed yr oedd yr hen Eifftiaid yn credu fyddai'n gweithio i'w perchnogion meirw yn y byd a ddaw.
Roedd y gweision mewn criw o 10 a fforman yn rheoli pob criw.
Ailenedigaeth
Mae'r gwrthrychau eraill yn cynnwys amwled o Sekhmet, duwies danllyd a chanddi ben cath, sawl dysgl grochenwaith a hebog Sokar.
Roedd Sokar yn dduw oedd yn gysylltiedig ag ailenedigaeth.
Cafodd yr eitemau eu cyflwyno i Goleg Woking yn y 1970au a chawsant eu hailddarganfod gan Martin Ingram, pennaeth y coleg.
Gofynnodd i'r Amgueddfa Brydeinig beth fyddai'r ffordd orau o'i ddefnyddio.
Awgrymodd yr amgueddfa y Ganolfan Eifftaidd yn Abertawe oherwydd ei gwaith addysgol arloesol.
Bydd y ganolfan yn trefnu gweithgareddau addysgol ar gyfer Coleg Woking.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Abertawe: "... rydym yn gobeithio annog mwy o fyfyrwyr chweched dosbarth i fynd i'r brifysgol, a gobeithio, astudio Eifftoleg yn Abertawe hyd yn oed.
"Mae'r ganolfan eisoes yn gweithio gydag ysgolion a cholegau yng Nghymru a rhannau o Loegr ond mae'n awyddus i ddatblygu ei gwaith gydag ysgolion uwchradd a cholegau chweched dosbarth."
Dywedodd Martin Ingram: "Rydw i wrth fy modd y bydd y gwrthrychau ar gael i ddysgwyr ac academwyr a gobeithiaf y bydd ein cysylltiad â Phrifysgol Abertawe yn annog mwy o fyfyrwyr i anelu at addysg uwch".
'Anarferol'
Dywedodd curadur y ganolfan, Carolyn Graves-Brown: "Rydym wrth ein boddau bod Woking wedi caniatáu i ni fenthyg y gwrthrychau.
"Oherwydd y nifer gyfyngedig o wrthrychau Eifftaidd gafwyd yn gyfreithlon sydd ar gael i amgueddfeydd, mae'n anarferol i amgueddfa hynafiaethau Eifftaidd dderbyn gwrthrychau newydd.
"Rydym yn gobeithio y byddan nhw'n dod â chryn bleser i ymwelwyr a hefyd yn annog mwy i fynychu'r brifysgol."
Mae'r eitemau yn cael eu harddangos yn y Ganolfan Eifftaidd a'r bwriad yw cyhoeddi'r eitemau ar y wefan erbyn diwedd yr haf.
Straeon perthnasol
- 25 Awst 2000
- 16 Mehefin 2004