BBC Cymru Fyw

Tân: Gweithwyr yn gadael melin lifio

Published

Bu'n rhaid i weithwyr nos mewn melin lifio ym Mhowys adael eu gwaith oherwydd tân yno.

Cafodd diffoddwyr eu galw i'r felin ym Mhontnewydd-ar-Wy ger Llanfair-ym-Muallt am 2am ddydd Iau.

Dywed Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru fod system ysgeintio'r felin yn gweithio mor dda fel ei bod yn bosib i'r diffoddwyr adael awr yn ddiweddarach.

Mae'r gweithwyr wedi dychwelyd i'r safle.