'Her fythgofiadwy' yn Uganda i ddirprwy gyfarwyddwr
- Cyhoeddwyd

Bydd Dirprwy Gyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Glan-llyn yn wynebu sialens newydd dros yr haf ac yn ymweld ag Uganda.
Bydd Arwel Phillips yn arwain tîm o bedwar gwirfoddolwr ifanc fel rhan o gyfres S4C i blant a phobl ifanc, "Newid Byd".
Roedd y gyfres gyntaf yn canolbwyntio ar brosiectau amgylcheddol a dyngarol yn rhai o wledydd difreintiedig y byd gyda'r tîm o 4 yn ymweld â Cambodia.
Roedden nhw'n gweithio mewn cartref plant ac ar brosiect eco-dwristiaeth mewn coedwig law, tra bu tîm arall yn cynorthwyo gydag adeiladu ysgol uwchradd i ferched a gofalu am anifeiliaid gwyllt prin ym Malawi.
Cwmni Telesgop sy'n cynhyrchu'r gyfres ac roedden nhw'n chwilio am arweinydd brwdfrydig a phrofiadol i arwain y ffordd ar brosiectau heriol yn Uganda.
Arwel oedd gyda'r profiad â'r sgiliau perffaith.
'Bythgofiadwy'
Bydd yn teithio gyda'r bobl ifanc, sydd rwng 17 ac 18 oed, yn ystod mis Awst a Medi, gan dreulio tair wythnos yn cynorthwyo cymunedau ac elusennau amrywiol yn ardal Mbale.
"Roedd y cyfle i gymryd rhan yn y prosiect yma yn un rhy dda i'w golli," meddai.
"Bydd y profiadau fydd y bobl ifanc yn eu hennill yn brofiadau fydd gyda nhw am oes.
"Byddwn yn gweithio gyda'r gwirfoddolwyr cyn hedfan allan i baratoi ar gyfer yr her, drwy weithio ar eu sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm, ymysg eraill. Braint fydd cael arwain y tîm i gynorthwyo cymunedau a phrosiectau amrywiol."
Dywedodd cynhyrchydd y gyfres, Mererid Wigley, bod y sialens sy'n wynebu'r criw yn "un fythgofiadwy, fydd yn eu profi i'r eithaf".
"Mae Arwel yn fwy nag abl i arwain taith fel hon, ac rwy'n sicr y bydd yn gallu rhoi hwb i'r bobl ifanc pan fydd angen, a bod yn gefn iddynt ar adegau anodd."
Bydd Newid Byd yn dychwelyd i'r sgrin yn ystod yr Hydref, ond mi fedrwch ddilyn eu taith yn ystod yr haf ar wefan y rhaglen.