Corff y milwr a laddwyd yn Afghanistan yn dychwelyd
- Cyhoeddwyd

Cafodd corff milwr o Gymru a laddwyd yn ne Afghanistan ei gludo'n ôl ddydd Iau.
Cafodd y Corporal Michael John Thacker o Fataliwn 1af y Cymry Brenhinol ei saethu tra ar ddyletswydd.
Fe wnaeth y milwr 27 oed fynychu Ysgol Uwchradd Fairwater yng Nghwmbrân.
Roedd yn byw yn Coventry gyda'i wraig a'i ferch ddyflwydd oed.
Mae ei frawd yr Is-gorporal Matthew Thacker, hefyd yn aelod o Fataliwn 1af y Cymry Brenhinol.
Derbyniodd y Corporal Thacker driniaeth feddygol yn syth ar ôl cael ei saethu yn ardal Nahr-e Saraj yn nhalaith Helmand ar Fehefin 1.
Cafodd ei gludo o'r ardal mewn hofrennydd ond bu farw o'i anafiadau.
Dyma'r trydydd tro iddo wasanaethau yn Afghanistan.
'Ffrindiau gorau'
Dywedodd ei wraig Catherine fod Michael "yn ŵr a thad anhygoel ...dyn ffraeth, caredig a llawn cariad.
"Roedd pawb oedd yn ei gwrdd yn cymryd ato."
Dywedodd ei frawd, nad oedd yn Afghanistan ar y pryd, eu bod yn "fwy na brodyr".
"Roeddem yn ffrindiau gorau, gallai ddim mynegi faint fyddai'n ei golli."
Dywedodd y cyrnol is gapten Stephen Webb: "Roedd yn gymeriad mawr, yn filwr arbennig, yn hynod ffyddlon ac yn hynod o falch o'i deulu."
Erbyn hyn mae 416 o aelodau lluoedd Prydain wedi eu lladd yn Afghanistan ers 2001.
Straeon perthnasol
- 3 Mehefin 2012