Gwella darpariaeth yng ngwersyll Llangrannog
- Cyhoeddwyd

Fe fydd adeiladu bloc llety newydd yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog yn dechrau ddiwedd yr haf.
Mae'r Urdd wedi derbyn £317,500 drwy Gyngor Sir Ceredigion o Gronfa Axis 3 Cynllun Datblygu Gwledig i Gymru 2007-13.
Yn y bloc cysgu bydd 128 o welyau ychwanegol ynghyd ag wyth stafell lle bydd pâr o welyau.
Ar ôl gorffen adeiladu'r bloc bydd y gwersyll yn cynnig llety i 500.
Dywedodd yr Urdd y byddai'r bloc llety'n "ehangu sylfaen busnes y gwersyll".
Daw hyn ar ôl gwaith yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn.
Mae Gwersyll Llangrannog yn anelu at ddarparu ar gyfer twristiaid ar wyliau gweithgareddau fel pysgota, cerdded, beicio a hefyd farchogaeth, yn enwedig o gofio bod Canolfan Ferlota Llangrannog wedi ei hagor yn 2009 a Llwybr Arfordirol Ceredigion yn 2008.
'Pum Seren'
"Trwy wella'r cyfleusterau llety, y gobaith yw gwella'r gwasanaeth i gwsmeriaid cyfredol gyda'r gallu i ddenu cwsmeriaid newydd yn ogystal ag edrych i geisio am Raddfa Pum Seren Croeso Cymru ar gyfer Canolfannau Awyr Agored," meddai Steff Jenkins, Cyfarwyddwr Gwersyll Llangrannog.
"Bydd y cynllun yn creu 6.5 swydd yn ychwanegol at y 105 sydd yn cael eu cyflogi'n barod a'r amcangyfrif yw bod y gwersyll yn cyfrannu £3 miliwn i'r economi lleol oherwydd ein polisi o gefnogi cyflenwyr a busnesau lleol."
Dros y gaeaf y bu'r gwaith ar gegin newydd i Lan-llyn a agorwyd dros wyliau'r Pasg.
Roedd y prosiect yn rhan o gynllun Canolfan Ragoriaeth Eryri, cynllun a ddatblygwyd gyda chefnogaeth ac arweiniad Cyngor Gwynedd.
Roedd Glan-llyn hefyd wedi derbyn cymorth ariannol i greu cegin newydd ac fe gafodd gwaith uwchraddio sylweddol ei wneud ar y caban bwyta.
'Buddsoddiad mawr'
"Mae'r gwaith wedi gweddnewid y gwersyll yn llwyr ac mae'n fuddsoddiad mawr yn nyfodol y Gwersyll," meddai Huw Antur, Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Glan-llyn.
"Er bod pedwar mis yn gyfnod hir o ran gwaith ar y safle, aeth popeth yn hwylus a hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd yn ystod y cyfnod."
Sicrhawyd cefnogaeth ariannol i'r prosiect gan y Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd, yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear, Parc Cenedlaethol Eryri a Phartneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru.
Derbynfa
Wrth ail-leoli'r gegin, roedd cyfle i droi yr hen gegin yn dderbynfa, ystafell gyfarfod a swyddfeydd.
Mae ail ran datblygiad Glan-llyn yn golygu adeiladu bloc llety newydd ger bloc llety Llys Aran - a 24 yn fwy o welyau.
A bydd caban sychu penodol i'r bloc ynghyd â dwy ystafell gyfarfod newydd.
Yn lle 196 bydd 220 yn gallu aros yno.
Straeon perthnasol
- 16 Gorffennaf 2004
- 17 Rhagfyr 2011
- 18 Ionawr 2006