'Angen ymchwiliad cyfrinachol'

  • Cyhoeddwyd
Menyw feichiog
Disgrifiad o’r llun,
Nod ymchwiliad cyfrinachol fyddai dod o hyd i ddiffygion ymarfer clinigol

Mae arbenigwyr wedi dweud bod angen ymchwiliad cyfrinachol am fod cyfradd genedigaethau marw Cymru'n uwch nac unrhyw wlad arall yn Ewrop.

Y nifer yw 200 o fabanod y flwyddyn a phrin, meddai arolwg, y mae'r nifer wedi newid ers 17 mlynedd.

Mae Arolwg Amenedigol Cymru Gyfan, sy'n cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i bwyllgor y Cynulliad, wedi dweud bod angen edrych yn fanwl ar y rhesymau am enedigaethau marw.

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad fod gweithgor wedi cael ei sefydlu.

Diffygion

Nod ymchwiliad cyfrinachol fyddai dod o hyd i ddiffygion ymarfer clinigol - a chynnig argymhellion.

Mae'r arolwg wedi galw am hyn yn eu tystiolaeth i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol fydd yn cynnal ymchwiliad eu hunain yn yr haf.

"Byddai ymchwiliad cyfrinachol yn golygu asesu a fyddai modd atal y genedigaethau marw ...," meddai'r arolwg.

"Byddai tîm o arbenigwyr, gan gynnwys bydwragedd, patholegwyr a staff iechyd cyhoeddus, yn adnabod achosion y mae modd eu hosgoi."

Yng Nghymru y gyfradd genedigaethau marw yn 2010 oedd 5.2 ymhob 1000 o enedigaethau.

Y gyfradd oedd 5.1 yn Lloegr, 4.9 yn yr Alban, a 4.1 yng Ngogledd Iwerddon.

Ymchwil

Er bod smygu, gordewdra a henaint y fam yn ffactorau, mae'r elusen Sands wedi dweud bod angen mwy o ymchwil.

Yn eu tystiolaeth i'r pwyllgor maen nhw wedi dweud: "O ran achos marwolaeth plant mae genedigaethau marw 10 gwaith yn fwy cyffredin na marwolaeth y crud, 40 gwaith yn fwy cyffredin na marwolaethau ffyrdd a 80 gwaith yn fwy cyffredin na llid yr ymennydd.

"Tra bod ymdrechion i leihau'r marwolaethau hyn does dim llawer o sylw i enedigaethau marw."

'Yn isel'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y gweithgor yn ceisio casglu cymaint o wybodaeth â phosib.

"Un o'r problemau yw bod y gyfradd awtopsi wedi genedigaeth farw'n isel - 39% o holl farwolaethau amenedigol - oherwydd bod hyn ar adeg anodd iawn.

"Mae'r gweithgor yn ceisio mynd i'r afael â ffactorau y mae modd eu hosgoi o ran ffordd o fyw a rheoli beichiogrwydd ..."