Crwner yn canmol patholegydd am fynnu canfod y gwir

  • Cyhoeddwyd

Cafodd patholegydd ei ganmol gan grwner am ganfod gwir achos marwolaeth merch 15 oed a fu farw'n sydyn yn 2010.

Roedd 'na gred bod Ffion Vaughan Williams o Borthmadog, oherwydd ei symptomau, wedi marw o'r ffliw.

Ond clywodd y cwest yng Nghaernarfon ddydd Mercher ei bod yn diodde' o'r ffliw ond bod y patholegydd, Dr Mark Lord o Ysbyty Gwynedd, yn credu bod 'na fwy na hynny i'w marwolaeth.

Roedd ei amheuon yn gywir ac fe gafodd rheithfarn o farwolaeth o achosion naturiol ei gofnodi.

Dyfalbarhad

Wedi archwiliad gan un o brif batholegwyr sy'n arbenigol ar niwroleg, fe ganfyddwyd bod 'na diwmor bychan iawn oedd yn atal yr hylif rhag gadael yr ymennydd ac mai dyma oedd achos marwolaeth Ffion o Brenteg, Porthmadog, ym mis Rhagfyr 2010.

Dywedodd Dr Lord wrth y cwest fod y ffliw wedi cuddio'r symptomau ac nad oedd o erioed wedi dod ar draws hyn o'r blaen.

Fe wnaeth y crwner, Dewi Pritchard-Jones, canmol Dr Lord am ei ddyfalbarhad ac y byddai, oherwydd cynnydd yn nifer achosion o'r ffliw yn yr ardal ar y pryd, fod wedi bod yn rhesymol i dybio mai dyma oedd achos ei marwolaeth a chuddio'r gwir achos

"Doedd Dr Lord ddim yn fodlon," meddai.

"Dwi'n ei ganmol am hynny. Fe fyddai person diog wedi gallu yn hawdd nodi mai'r ffliw oedd yr achos.

"Ond doedd pethau ddim mor glir ac roedd Dr Lord yn gywir i barhau i ganfod y gwir achos."