Llai yn cael profion canser serfigol yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae llai o ferched yng Nghaerdydd yn cael eu sgrinio am ganser serfigol nag unrhyw le arall yng Nghymru, yn ôl yr ystadegau diweddara.

Nid aeth bron 40,000 i brofion allai achub eu bywydau yn 2010-11, yn ôl Sgrinio Serfigol Cymru.

Dywedodd fod y bai ar fywydau prysur merched, oriau agor meddygfeydd a phryder am y prawf.

Mae 'na ymgyrch wedi cychwyn ar ôl i waith ymchwil ddangos na chafodd un o bob pedair yng Nghymru'r prawf yn 2010-11.

Nid aeth Karen Holroyd o'r Barri ym Mro Morgannwg i brawf ac fe gafodd wybod ei bod yn diodde' o ganser serfigol yn 30 oed.

"Dwi'n annog pawb i gael y prawf," meddai'r fam i un.

"Dwi nawr yn gwybod pa mor bwysig ydi'r profion."

Wedi lledu

Ym mis Chwefror 2010 sylweddolodd ei bod yn gwaedu'n drwm ac roedd yn credu ei fod yn rhyw fath o haint.

Ym mis Awst gwelodd feddyg gwahanol wnaeth gynnal archwiliad.

Ffynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Karen Holroyd, yma gyda'i mab Elliot, wybod yn 30 oed bod ganddi ganser serfigol

"Yn syth cefais fy nhrosglwyddo ar frys i'r uned gynecoleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac fe wnaethon nhw ddweud wrthyf i'n syth beth oedden nhw'n credu oedd yn bod."

Roedd y profion yn dangos ei bod yn diodde' o ganser a'i fod wedi lledu i'r nodau lymff.

"Does dim modd disgrifio sut yr oeddwn yn teimlo," meddai.

Cafodd driniaeth chemotherapi, radiotherapi a brachytherapi.

"Yn amlwg mae wedi cael effaith ar fy ffrwythlondeb gan iddo arwain at ddiwedd fy misglwyf ac roeddwn i a fy nghymar wedi bod yn trafod cael plant.

Cafodd Ms Holroyd wybod ym mis Mehefin y llynedd bod y canser gwreiddiol wedi mynd ond ei fod yn dal yn bresennol yn y nodau lymff.

Codi ymwybyddiaeth

Mae modd rheoli hynny ond ddim ei wella.

"Mae mor bwysig cael y profion," meddai.

Ffynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,
Bydd hysbysebion ar fysus Caerdydd yn annog merched i gael prawf

Un elusen sy'n canolbwyntio ar y math yma o ganser yw Ymddiriedolaeth Canser Serfigol Jo.

Fe fyddan nhw'n dechrau ymgyrch i annog merched i gael y prawf.

Yr wythnos nesaf mae hi'n wythnos codi ymwybyddiaeth o gael profion.

"Bob blwyddyn mae profion yn achub 5,000 o fywydau ac eto dydi un o bob pedair ddim yn mynychu eu profion," meddai Robert Music, cyfarwyddwr yr ymddiriedolaeth.

"Gyda'r ystadegau yna, a'r ffaith bod nifer y profion yng Nghaerdydd yn 73.3%, y lefel isa' yn y wlad, rydym yn targedu'r ddinas.

"Fe fydd hysbysebion ar fysus y ddinas yn annog merched i gymryd profion a chodi nifer y rhai sy'n cael profion yn y ddinas i 92%."

Y gyfradd ymhlith oed 25-29 yw 24.3% - yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol - ac 24.8% ymhlith y rhai rhwng 60 a 64 oed.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol