Cyhoeddi pedwar rhybudd llifogydd
- Cyhoeddwyd

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi dweud y dylai pobl fod yn wyliadwrus mewn pedair ardal oherwydd glaw trwm.
Dywedodd yr asiantaeth brynhawn Iau fod rhybudd o lifogydd posib yn Aber Afon Gwy, Aber Afon Wysg, Bae Abertawe a'r arfordir o Aberthddawen i Bont Hafren.
Dylai pobl wrando ar adroddiadau tywydd a chadw golwg ar wefan yr asiantaeth neu ffonio'r llinell wybodaeth ar 0845 988 1188.
Yn ôl y rhagolygon, mae disgwyl i wyntoedd cryfion a glaw trwm effeithio ar y rhan fwyaf o'r wlad nos Iau a dydd Gwener.
Tonnau mawr
Gallai gwyntoedd cryfion nos Iau a bore Gwener arwain at donnau mawr ar hyd arfordir y de.
Dywedodd cyflwynydd tywydd BBC Cymru, Yvonne Evans: "Fe fydd 'na wyntoedd anhymhorol ac fe fydd hi'n teimlo'n fwy fel yr hydref.
"Mae cyfnodau o law brynhawn Iau gan fod ffrynt oer yn dod â mwy o law o gyfeiriad y de-ddwyrain gyda'r tymheredd ar ei ucha' tua 16 gradd Celsius."
Dywedodd fod y Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y byddai gwyntoedd cryfion yn y de gyda'r gwynt rhwng 40 a 50 mya. ar hyd glannau'r de.
"Fe fydd hi'n noson wlyb mewn sawl man gyda'r tymheredd ar ei isa tua 11 gradd Celsius."
Gallai'r gwyntoedd gyrraedd tua 60 mya ar hyd arfordiroedd ddydd Gwener - hyd at 70 mya mewn mannau.
Mae hyn yn golygu y gallai coed gwympo ac y byddai trafferthion posib i deithwyr a llifogydd posib, yn enwedig yn aradloedd Bae Abertawe a Phorthcawl.
'Glaw trwm'
Ychwanegodd Yvonne Evans: "Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd o law trwm yn rhannau o Wynedd, Ceredigion a Phowys.
"Gallai rhwng 60 a 100mm (hyd at bedair modfedd) o law ddisgyn mewn cyfnod byr.
"Ac fe fydd hi'n niwlog mewn sawl man, yn enwedig ar dir uchel."
Dywedodd y byddai'r tywydd yn fwy sefydlog erbyn dydd Sadwrn diolch i gefnen o wasgedd uchel.
"Bydd hi'n sychach, brafiach a'r gwynt yn ysgafnach ond fe fydd peth glaw ddydd Sul."