Chwiliad am leidr sydd wedi dianc o garchar Prescoes
- Published
Mae dyn 22 oed oedd yn y carchar wedi iddo ei gael yn euog o drosedd sy'n ymwneud â chyffuriau wedi dianc o garchar Prescoed ger Brynbuga, Sir Fynwy.
Mae'r heddlu yn chwilio am William Philip Goldie wedi iddo adael y carchar agored ddydd Mercher.
Roedd wedi ei ddedfrydu i 30 mis yn y carchar am feddu ar gyffuriau rheoledig gyda'r bwriad o gyflenwi.
Dywedodd yr heddlu y gallai achosi perygl i'r cyhoedd.
Yn ôl yr heddlu, mae gan Goldie gysylltiadau ag ardal Caerloyw.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Mae Heddlu Gwent wedi dechrau eu cynllun gweithredu gyda'r nod o'i ddal a'i ddychwelyd i'r carchar."
Mae'n ddyn tenau gyda gwallt brown byr a llygaid glas ac yn chwe throedfedd (1.8 metr) o daldra.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 01633 838111 neu ffonio Taclo'r Tacle ar 0800 555111.