Gareth Thomas i ymddangos mewn pantomeim
- Published
Bydd cyn-gapten rygbi Cymru, Gareth Thomas, yn cymryd rhan mewn pantomeim am y tro cyntaf.
Bydd Thomas, sydd yn 37, yn chwarae rhan y genie yn Aladdin yn Theatr y Stiwt yn Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam.
Ers gorffen chwarae rygbi mae Thomas wedi ymddangos sawl gwaith ar y teledu, gan gynnwys cymryd rhan yn sioe 'Celebrity Big Brother'.
Yn ddiweddar ymddangosodd ar raglen cariad@iaith lle enillodd gystadleuaeth i ddysgu Cymraeg.
"Dwi ddim yn un i anwybyddu her a rhoi tro ar rywbeth newydd," meddai.
"Felly pan gefais i'r cyfle yma roeddwn i'n meddwl ei bod yn rhy dda i beidio â'i gymryd."
Dywedodd hefyd ei bod yn edrych ymlaen at gwrdd â hen ffrindiau, gan iddo chwarae rygbi yn ardal Wrecsam am ddwy flynedd.
Bydd y pantomeim yn dechrau ar Ragfyr 11 ac yn gorffen ar Ionawr 2 2013.
Dywedodd reolwr y theatr, Rebecca Griffiths, bod Gareth yn "bersonoliaeth enfawr".
"Mae yn eicon Cymraeg ac mae ganddo yrfa wych gyda dilynwyr byd-eang.
"Bydd ei bresenoldeb ar y llwyfan yn chwarae rhan y Jînî yn epig."
Straeon perthnasol
- Published
- 1 Mehefin 2012
- Published
- 25 Hydref 2011