Ymosodiad rhywiol yn Abertawe: Arestio dyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi arestio dyn lleol 29 oed wedi ymosodiad rhywiol yn Abertawe.
Roedd yr ymosodiad yn Heol Castell-nedd yn oriau mân ddydd Sul.
Mae'r dyn yn cael ei holi yng Ngorsaf Ganolog yr Heddlu yn Abertawe.