Dod o hyd i leidr oedd wedi dianc o garchar Prescoed
- Cyhoeddwyd

Roedd yr heddlu'n chwilio am William Philip Goldie wedi iddo adael y carchar agored ddydd Mercher
Mae'r heddlu wedi arestio dyn 22 oed oedd wedi dianc o garchar Prescoed ger Brynbuga, Sir Fynwy.
Cafwyd hyd i William Philip Goldie yn Sir Gaerloyw.
Roedd wedi ei ddedfrydu i 30 mis yn y carchar am feddu ar gyffuriau rheoledig gyda'r bwriad o gyflenwi.
Roedd yr heddlu wedi dweud y gallai achosi perygl i'r cyhoedd.
Torri trwydded
Yn y cyfamser mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth am ddyn 33 oed.
Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Mae Jonathan Wayne Finch wedi torri amodau ei drwydded
Cafodd Jonathan Wayne Finch o ardal Y Strand yn Abertawe ei ryddhau o'r carchar ar drwydded.
Dywedodd yr heddlu ei fod wedi torri'r amodau.
Mae'n 5 troedfedd 4 modfedd o daldra, yn denau, a chanddo wallt byr du a llygaid brown.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth, fe ddylai gysylltu gyda'r heddlu yn lleol ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol