Llanc wedi marw ar ôl damwain mewn chwarel yn Llandybie

Chwarel Cilyrychen
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw tua 4.40pm ddydd Mercher

Mae bachgen 14 oed wedi marw yn yr ysbyty wedi damwain yn Chwarel Cilyrychen yn Sir Gâr.

Roedd Luke Somerfield yn dod o ardal Ffairfach, Llandeilo.

Cafodd yr heddlu eu galw tua 4.40pm ddydd Mercher am ei fod mewn trafferthion mewn dŵr yn y chwarel ger Heol Llandeilo, Llandybie.

Cafodd Luke ei achub o'r dŵr cyn i hofrennydd yr heddlu fynd ag e i Ysbyty Treforys. Bu farw yno'n ddiweddarach.

Mae'r heddlu ac asiantaethau eraill yn ymchwilio.

Ymchwiliad

Cadarnhaodd David McClelland, Cyfarwyddwr Gweithredol Tarmac (Rhanbarth y Gorllewin) fod digwyddiad wedi bod yn y chwarel sy'n safle caeëdig.

"Yn anffodus, mae hyn wedi arwain at farwolaeth bachgen ifanc ac mae ein cydymdeimlad gyda'i deulu a'i ffrindiau.

"Rydym yn cefnogi'r gwasanaethau brys yn ystod eu hymchwiliad."

Dywedodd pobl leol fod arwyddion rhybudd yn y chwarel ond bod rhai pobl ifanc yn mynd i farbeciws yno.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.