Y Tywysog William yn arwain ymgyrchoedd chwilio ac achub
- Cyhoeddwyd

Mae'r Tywysog William yn gapten chwilio ac achub yn yr Awyrlu, yn ôl Clarence House.
Fe basiodd ei brofion ar Fai 29.
Dywedodd llefarydd ei fod "yn hapus ei fod wedi cyrraedd y garreg filltir".
Mae'r tywysog yn gwasanaethu yn Sgwadron 22 yn Y Fali, Ynys Môn.
Eisoes mae wedi bod yn gwasanaethu fel cyd-beilot.
Dywedodd Clarence House y byddai'n "arwain ymgyrchoedd chwilio ac achub mewn hofrenyddion Sea King".
Roedd deuddydd o brofion ar y tir ac yn yr awyr.
'Safon'
Ers dwy flynedd mae wedi cael profiad o hedfan yn yr hofrennydd.
Fe ymunodd gydag Adran C y sgwadron ar ôl ei hyfforddiant ym mis Medi 2010.
"Roedd safon yr Is-Gapten Wales yn ddigon i ennill y cymhwyster," meddai'r Awyr-Gomander Mark Dunlop o Sgwadron 22.
"Oherwydd natur ymgyrchoedd chwilio ac achub mae gofyn bod y safon yn uchel iawn.
"Mae'r dyletswyddau'n golygu cyfrifoldeb am ddiogelwch yr hofrennydd, y criw ac unrhyw un sydd wedi eu hanafu."
'Amserlen arferol'
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod y profion "o fewn amserlen arferol".
Yn gynharach yn y flwyddyn roedd dyletswyddau'r tywysog yn golygu chwe wythnos ar Ynysoedd y Falkland.
Fe wnaeth brawd y tywysog, y Tywysog Harry, gwblhau hyfforddiant peilot ar hofrenyddion Apache.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2010