Prawf Cyntaf: Awstralia 27 Cymru 19

  • Cyhoeddwyd
Scott Higginbotham
Disgrifiad o’r llun,
Scott Higginbotham sgoriodd gais cyntaf Awstralia

Collodd Cymru gêm gyffrous yn erbyn Awstralia yn Stadiwm Suncorp, Brisbane ddydd Sadwrn.

Ond fe fydd perfformiad y Cymry yn ystod yr ail hanner yn rhoi hyder iddynt cyn yr ail brawf Ddydd Sadwrn nesaf.

Roedd Cymru o dan y lach yn ystod yr hanner cynaf wrth i Awstralia roi'r ymwelwyr o dan bwysau aruthrol.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi saith munud o'r ornest ar ôl i'r maswr Berrick Barnes lwyddo gyda chic gosb.

Chwarae gwefreiddiol

Fe wnaeth Awstralia ymestyn eu mantais wedi 16 munud ar ôl i Scott Higginbotham dirio cyn i Barnes lwyddo gyda'r trosiad.

Sgoriodd Cymru eu pwyntiau cyntaf ar ôl 22 munud drwy gic gosb gan Leigh Halfpenny.

Cafodd gobeithion Cymru glec naw munud yn ddiweddarach pan fu'n rhaid i George North adael y cae gydag anaf gyda James Hook yn dod ymlaen yn ei le i chwarae fel cefnwr.

Y sgôr ar yr egwyl oedd 10-3 i Awstralia ond aeth y tîm cartref ymhellach ar y blaen yn dilyn cais gwych gan y mewnwr Will Genia wedi iddo fylchu rhwng Ken Owens ac Adam Jones ac ochr gamu'n bert i osgoi Hook cyn tirio'r bêl o dan y pyst.

Llwyddodd Barnes gyda'r trosiad cyn i Halfpenny lwyddo gyda'i ail gic gosb ddwy funud yn ddiweddarach.

Ond ymestynnodd Barnes fantais Awstralia i 14 pwynt gyda gôl adlam wedi 51 munud.

Ond fe wnaeth Cymru chwarae'n wefreiddiol am y deng munud nesaf.

Amddiffyn cadarn

Ciciodd Halfpenny ei drydedd gic gosb wedi 56 munud o'r chwarae cyn i Alex Cuthbert sgorio cais gwych ddwy funud yn ddiweddarach yn dilyn gwaith da gan Ashley Beck, oedd wedi dod i'r cae fel eilydd i ennill ei gap cyntaf.

Dim ond un pwynt oedd Cymru ar ei hôl hi ar ôl i Halfpenny llwyddo gyda'i bedwaredd gic gosb wedi 61 munud.

Ond ymestynnodd Awstralia eu mantais i fwy nag un sgôr saith munud yn ddiweddarach ar ôl i'r canolwr Pat McCabe gwibio drwy amddiffyn Cymru i dirio'r bêl cyn i Barnes gicio'r trosiad.

Er i Gymru ymdrechu'n galed yn ystod munudau ola'r ornest roedd amddiffyn Awstralia yn ddigon cadarn i atal y Cymry rhag sgorio eto.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru yn dal heb guro Awstralia oddi cartref er 1969.

Awstralia: Adam Ashley-Cooper (NSW); Cooper Vuna (Melbourne Rebels), Rob Horne (NSW), Pat McCabe (ACT), Digby Ioane (Queensland); Berrick Barnes (NSW), Will Genia (Queensland); Benn Robinson (NSW), Tatafu Polota-Nau (NSW), Sekope Kepu (NSW), Rob Simmons (Queensland), Nathan Sharpe (Western Force), Scott Higginbotham (Queensland), David Pocock (Western Force, capt), Wycliff Palu (NSW).

Eilyddion: Stephen Moore (ACT), Ben Alexander (ACT), Dave Dennis (NSW), Michael Hooper (ACT), Nic White (ACT), Anthony Fainga'a (Queensland), Mike Harris (Queensland).

Cymru: Leigh Halfpenny (Gleision); Alex Cuthbert (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Scott Williams (Scarlets), George North (Scarlets); Rhys Priestland (Scarlets), Mike Phillips (Bayonne); Gethin Jenkins (Toulon), Ken Owens (Scarlets), Adam Jones (Gweilch), Bradley Davies (Gleision), Luke Charteris (Perpignan), Dan Lydiate (Dreigiau), Sam Warburton (Gleision, capt), Toby Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Matthew Rees (Scarlets), Paul James (Caerfaddon), Alun Wyn Jones (Gweilch), Ryan Jones (Gweilch), Lloyd Williams (Gleision), James Hook (Perpignan), Ashley Beck (Gweilch).