Siom i Dai Greene ond Gareth Warburton yn ennill
- Cyhoeddwyd

Roedd hi'n noson siomedig i Dai Greene yn y Diamond League yn Oslo nos Iau.
Pedwerydd yn unig oedd Greene yn y 400m dros y clwydi.
Dyma'r tro cyntaf i bencampwr Prydain wneud ei ymddangosid y tymor yma yn y gynghrair.
Mae'n cyfadde' ei fod wedi ymdrechu i gadw'r cyflymdra a osodwyd gan yr enillydd Javier Culson.
Llwyddodd Culson o Puerto Rica i gofnodi amser o 47.82 eiliad wrth i Greene gofnodi 48.98 eiliad.
"Dwi'n meddwl fy mod wedi mynd yn rhy gyflym o ystyried lefel fy ffitrwydd ar hyn o bryd," meddai Greene yn siomedig sydd wedi diodde' o firws.
Ennill
Ond roedd 'na newyddion da i'r Cymro Gareth Warburton ac ennill ras yr 800m.
Roedd Warburton wedi llwyddo i gwblhau'r ras mewn 1 munud a 44.98 eiliad.
Dyma oedd ei amser gorau erioed ac roedd o hefyd yn record i Gymro ac yn amser digon da iddo fo gael ei ystyried ar gyfer Y Gemau Olympaidd yn Llundain eleni.
Y nod nesa iddo ydi ennill neu orffen yn ail yn y treialon ar gyfer Y Gemau yn Birmingham ymhen pythefnos.
Roedd o wrth ei fodd ar ôl ei fuddugoliaeth.au.