Gŵyl y Gelli'n dathlu 25 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
David Walliams, Guy Rose, Alex Jones a Richard Wilson
Disgrifiad o’r llun,
Bu enwogion fel David Walliams yn llongyfarch Guy Rose, ennillydd cystadleuaeth yn ystod yr ŵyl

Ym 1987 cynhaliwyd Gŵyl y Gelli am y tro cyntaf yng nghefn adeilad y Lleng Brydeinig yn y dref, ac fe werthwyd 2,000 o docynnau.

Mae 25 mlynedd wedi mynd heibio ac mae nawr yn atyniad byd-eang yn gwerthu chwarter miliwn o docynnau.

Mae'r ŵyl flynyddol, sydd yn gymysgedd o lenyddiaeth, gwleidyddiaeth a chomedi yn cael ei chynnal dros 11 diwrnod ac yn gorffen y penwythnos yma.

Dros y blynyddoedd mae enwogion yn cynnwys cyn-arlywydd yr UD (Bill Clinton), cyn-aelod y Beatles (Syr Paul McCartney), a'r canwr Sting wedi ymddangos yno.

Disgrifiad o’r llun,
Mae yn tua 30 siop lyfrau yn Y Gelli Gandryll

'Amatur addawol'

Dywedodd trefnydd yr ŵyl, Peter Florence, ei bod wedi dechrau "gyda'r dyhead syml o geisio cael nifer o ffrindiau at ei gilydd a chael amser da".

"Fe ddechreuon ni yng nghefn adeilad y Lleng Brydeinig. Roedd gennym fardd hollol anadnabyddus o'r enw Carol Ann Duffy, a bardd Cymreig o'r enw Gillian Clarke a chanwr o ogledd Cymru, amatur addawol iawn o'r enw Bryn Terfel."

Erbyn heddiw Bardd y Brenin yw Carol Ann Duffy, bardd cenedlaethol Cymru yw Gillian Clarke tra bod Bryn Terfel yn ganwr opera sydd yn enwog dros y byd.

Ymysg y rhai a ymddangosodd yn yr ŵyl eleni oedd y sylwebydd teledu i'r BBC Clare Balding.

Dywedodd hi nad oedd wedi bod o'r blaen, ac, er gwaetha'r glaw, roedd y profiad wedi bod yn "wych" a byddai'n hoffi dychwelyd blwyddyn nesaf.

Meddai'r cyflwynydd Kate Humble, sydd yn ffermio yn Sir Fynwy: "Dwi'n meddwl bod Gŵyl Y Gelli yn un o'r pethau gwych sy'n rhoi Cymru ar y map."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol