MRI i gynorthwyo trin iselder?

  • Cyhoeddwyd
MRI scan resultsFfynhonnell y llun, Cardiff University
Disgrifiad o’r llun,
Roedd darnau sydd wedi'u labelu 'VS' yn dangos cynnydd mewngweithgarwch yn dilyn sesiynau ymarfer

Mae dangos scan MRI o sut y mae meddwl yn bositif yn cael effaith ar yr ymennydd yn gallu bod o gymorth wrth drin iselder yn ôl ymchwilwyr.

Mae myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi scanio ymennydd wyth o bobl sy'n diodde' o iselder cyn, ac ar ôl, iddyn nhw ddefnyddio techneg o'r enw "delweddaeth emosiynol bositif".

Roedd mwy o newidiadau yng ngweithgarwch yr ymennydd nag mewn grŵp arall oedd heb weld canlyniadau scan MRI.

Dywedodd yr Athro David Linden fod angen mwy o ymchwil i faes niwro-adborth.

'Rhan o becyn triniaeth'

Roedd yr astudiaeth yn dangos bod cleifion yn y grŵp prawf yn medru rheoli gweithgarwch yn y rhannau o'r ymennydd oedd yn cael eu targedu yn yr arbrawf.

Dangosodd yr ymchwil fod iselder mewn wyth o'r cleifion wedi "gwella'n sylweddol" er nad oedd eu meddyginiaeth wedi newid yn ystod yr astudiaeth.

Doedd yr wyth yn y grŵp rheoli ddim wedi gweld unrhyw wellhâd clinigol.

Yr Athro Linden oedd yn arwain y tîm yng Nghanolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd ym Mhrifysgol Caerdydd (Cubric).

Dywedodd: "Un o elfennau mwyaf diddorol y dechneg yma yw ei bod yn rhoi'r profiad o reoli gweithgarwch yn eu hymennydd eu hunain i'r cleifion.

"Roedd llawer ohonyn nhw â diddordeb mawr yn y ffordd yma o gysylltu gyda'u hymennydd.

"Nid ydym yn disgwyl i hwn fod yn driniaeth ar ei ben ei hun, ond yn hytrach fel rhan o becyn cynhwysfawr o driniaeth.

"Mae canlyniadau'r astudiaeth yn rhai cychwynnol ac mae angen mwy o ymchwil i asesu buddion clinigol posib i gleifion."

Mae'r Cyngor Ymchwil Meddygol wedi ariannu profion ehangach er mwyn gwerthuso effaith therapiwtig bosib ar iselder, ac mae'r tîm yng Nghaerdydd eisoes wedi dechrau ar y gwaith yma.

Mae'r un grŵp ymchwil hefyd wedi defnyddio'r dechneg niwro-adborth i glefyd Parkinson's.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol