Colli'r actor Dorien Thomas

  • Cyhoeddwyd
Dorien Thomas
Disgrifiad o’r llun,
Dorien Thomas yn actio mewn golygfa o Bobol Y Cwm

Bu farw'r actor Dorien Thomas yn 55 oed.

Cafodd ei eni a'i fagu ym Mhontypridd a bydd yn cael ei gofio am ei rannau ym Mhobol y Cwm, y ffilm Twin Town a'r gyfres gomedi High Hopes.

Hefyd fe wnaeth ymddangos yn The Bill ac mewn sawl cynhyrchiad yn y theatr.

Bu farw o drawiad y galon ddydd Gwener.

Bu'n dioddef o ganser y gwddw.

'Herio'r ffiniau'

Meddai Ynyr Williams, Cynhyrchydd y Gyfres, Pobol y Cwm, BBC Cymru:

"Gyda thristwch mawr y clywsom am farwolaeth Dorien.

"Roedd yn actor ac yn unigolyn oedd yn mwynhau ei fywyd ac yn mwynhau herio'r ffiniau ar bob achlysur. Yn ystod yr 80au a'r 90au roedd yn un o wynebau mwyaf eiconic teledu Cymraeg a Saesneg o Gymru a bu'n aelod gwerthfawr o gast Pobol y Cwm.

"Mae cydymdeimladau y cast a'r criw yn ddiffuant iawn i'w deulu agosaf. "

Dywedodd y cyfarwyddwr ffilm Nic Thomas: Roedd e'n actor hynod ddeallus. Roedd e'n ffrind mawr a bydd e'n golled mawr i bawb oedd yn ei adnabod."

Mae o'n gadael ei dad Allan a'i fam Shirley.