Damwain: Beiciwr modur wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi i feiciwr modur o ardal Wiltshire farw wedi damwain ffordd.
Fe ddigwyddod y gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd ar ffordd yr A40 - i gyfeiriad Llanymddyfri tua 5.05pm Ddydd Sadwrn.
Bu farw'r dyn 59 oed yn y fan a'r lle.
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio Heddlu Dyfed-Powys ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol