Faletau i ddychwelyd i Gymru
- Published
Fe fydd yn rhaid i'r wythwr Toby Faletau ddychwelyd i Gymru wedi iddo dorri asgwrn yn ei law yn ystod y gêm brawf rhwng Cymru ac Awstralia yn Brisbane Ddydd Sadwrn.
Bydd Gareth Delve o dîm y Melbourne Rebels yn cymryd lle Faletau, 21 oed, yng ngharfan Cymru wrth iddynt baratoi ar gyfer yr ail brawf yn Melbourne ddydd Sadwrn nesaf.
Collodd Cymru'r prawf cyntaf 27-19.
Mae Delve wedi chwarae 11 gwaith dros ei wlad, y tro diwethaf yn erbyn Iwerddon ym mis Mawrth 2010.
Mae hyfforddwr dros dro Cymru, Rob Howley, yn gobeithio y bydd George North a Scott Williams yn holliach erbyn yr ail brawf wedi i'r ddau ddioddef anafiadau yn ystod y prawf cyntaf.
Cymrodd James Hook lle North wedi 31 munud o'r ornest wedi i North ddioddef anaf i'w goes.
Bu'n rhaid i Scott Williams dderbyn pwythau i'w geg yn dilyn gwrthdrawiad â bachwr Awstralia Tatafu Polota-Nau yn ystod yr ail hanner.
Straeon perthnasol
- Published
- 9 Mehefin 2012
- Published
- 7 Mehefin 2012
- Published
- 3 Mehefin 2012