Buddugoliaeth i Forgannwg
- Cyhoeddwyd

Daeth buddugoliaeth gynta'r tymor i gricedwyr Morgannwg yn y gêm Pro40 ym Mae Colwyn yn erbyn Durham.
Wedi i Mark Wallace alw'n gywir a dewis batio, doedd yr un cyfraniad mawr gan fatwyr y tîm cartref, ond roedd y sgorio'n gyson gyda nifer yn cyfrannau sgôr yn yr ugeiniau gan gynnwys Martin van Jaarsveld a Gareth Rees.
Roedd cyfanswm Morgannwg o 163 ddim yn ymddangos yn un heriol i'r ymwelwyr, ond fe gafodd Simon Jones diwrnod ardderchog gyda'r bêl.
Cipiodd Jones bedair wiced am ddim ond 23 rhediad yn ei wyth pelawd, ac roedd cyfraniad Jim Allenby o 2 am 25 hefyd yn werthfawr wrth adael Durham yn 99 am 7 ar un cyfnod.
Roedd cyfraniad Michael Richardson o 45 yn allweddol wrth i Durham wneud gêm go iawn ohoni, a gyda Mitchell Claydon yn taro'r bêl i bob cornel yn hwyr yn y batiad, roedd hi'n ymddangos y byddai gan Durham obaith o gipio buddugoliaeth anhebygol.
Ond cipiodd Will Owen y wiced olaf i sicrhau buddugoliaeth gyntaf Morgannwg mewn unrhyw ffurf o griced yr haf yma, a hynny o 15 rhediad.
Pencampwriaeth Pro40 - Morgannwg v. Swydd Durham ym Mae Colwyn :-
Morgannwg - 163
Swydd Durham - 148
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2012