Chwech i geisio am ysgoloriaeth Bryn Terfel

  • Cyhoeddwyd
Bryn Terfel
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r ysgoloriaeth, sy'n dwyn enw Bryn Terfel, yn sicr o roi hwb i'r enillydd

Fe fydd 'na chwech o gystadleuwyr yn cystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru 2012.

Mae'r chwech eisoes yn enillwyr wedi iddyn nhw ddod i'r brig yn Eisteddfod yr Urdd Eryri'r wythnos diwethaf.

Mae'r ysgoloriaeth werth £4,000 ac fe roddir yn flynyddol i enillydd un o wyth o gystadlaethau unigol dan 25 oed Eisteddfod yr Urdd.

Eleni fe fydd Cerian Phillips, Huw Ynys Evans, Lois Eifion, Glesni Euros, Ceri Wyn a Rachel Lee Stephens yn cystadlu am yr ysgoloriaeth.

Fe fydd yn rhaid i bob cystadleuydd berfformio rhaglen a bydd panel o feirniaid arbenigol yn penderfynu pwy fydd yn derbyn yr Ysgoloriaeth.

Nod yr Ysgoloriaeth yw meithrin talentau rhai o berfformwyr ifanc mwyaf blaenllaw Cymru.

Fe fydd yn rhoi'r cyfle iddyn nhw ddatblygu ymhellach yn eu maes.

Cyn y gystadleuaeth bydd y cystadleuwyr yn cael Dosbarthiadau Meistri gan arbenigwyr yn eu maes.

Fe sefydlwyd y gystadleuaeth yn 1999.

Ers hynny mae'r enillwyr yn cynnwys llefarwyr, cerddorion a dawnswyr.

Y llynedd, y delynores Glain Dafydd oedd yn fuddugol.

Mae Elgan Llŷr Thomas, Catrin Angharad Roberts, Rhian Lois Evans, Manon Wyn Williams, Rhys Taylor, Lowri Walton, Rakhi Singh, Aled Pedrig, Rhian Mair Lewis, Fflur Wyn a Mirain Haf wedi ennill yr ysgoloriaeth yn y gorffennol.