Newidiadau i system draffig tref
- Cyhoeddwyd

Mae system oleuadau traffig newydd yn cael ei chyflwyno ym Mhrestatyn.
Mae system llif traffig newydd yn dod i rym mewn tref yng ngogledd ddwyrain Cymru ddydd Llun.
Ym Mhrestatyn, sir Ddinbych, bydd llif traffig unffordd yn cael ei gyflwyno ar ran o'r Stryd Fawr a Stryd y Bont ble mae'r cyffyrdd â'r Stryd Fawr a Stryd Penisardre.
Roedd y system i fod i ddod i rym ar ddydd Llun, Mehefin 11.
Ond cafodd y gwaith ei ohirio am wythnos oherwydd problemau'n gosod goleuadau traffig.
Mae'r newidiadau yn rhan o gynllun i adeiladu archfarchnad newydd ger prif stryd y dref.
Y gobaith yw y bydd yr archfarchnad yn denu mwy o siopwyr.
Ond mae rhai masnachwyr lleol wedi beirniadu'r cynllun, gan godi pryderon y bydd y newidiadau yn cael effaith ar fusnesau.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol