Agor a gohirio cwest wedi damwain ffordd ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Map lleoliad
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle ger Rhosgoch yn hwyr nos Sadwrn

Cafodd cwest ei agor a'i ohirio wedi i ddyn ifanc farw mewn damwain ffordd yn Sir Fôn dros y penwythnos.

Roedd Dewi Wyn Owen Parry, 17 oed, o bentre' Llanbabo ar yr ynys.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd fechan ger Rhosgoch am 10:25pm nos Sadwrn.

Bu farw Mr Parry yn y fan a'r lle.

Dim ond un car oedd yn rhan o'r ddamwain, cerbyd gyriant pedair olwyn Isuzu Trooper glas.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a'r gwasanaeth ambiwlans eu galw.

Mae'r heddlu yn apelio i unrhyw un allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu'r cerbyd Isuzu yn gyrru ychydig cyn y ddamwain, i gysylltu â nhw.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol