BBC Cymru Fyw

Merch 13 oed yn marw ar ôl damwain beic modur ym Merthyr Tudful

Published

image copyrightWales News Service
image captionMae ffrindiau Caitlin Edwards wedi gadael negeseuon teyrnged ar wefannau cymdeithasol

Mae merch ysgol 13 oed wedi marw 11 diwrnod ar ôl damwain beic modur ym Merthyr Tudful.

Bu Caitlin Edwards mewn coma ers y ddamwain.

Doedd hi ddim yn gwisgo helmed pan syrthiodd wedi i'r beic deithio 200 llath.

Cytunodd y teulu ddiffodd ei pheiriant cynnal bywyd yn yr Ysbyty Athrofaol, Caerdydd.

Mae'r teulu wedi rhoi caniatâd i'w horganau gael eu defnyddio i achub eraill.

Digwyddodd y ddamwain yn Stryd Thomas Isaf ym Merthyr.

Mae'r heddlu wedi bod yn holi'r llanc 17 oed oedd yn gyrru'r beic modur.

"Digwyddodd y ddamwain ar gylchdro, doedd yna ddim cerbyd arall yn rhan o'r ddamwain," meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

"Aed â Caitlin a'r gyrrwr i'r ysbyty ac roedd gan Caitlin anafiadau i'w phen."

'Torcalonnus'

Bu farw hi ddydd Gwener ddiwethaf.

Mae cannoedd o'i ffrindiau wedi gadael negeseuon teyrnged ar wefannau cymdeithasol.

Dywedodd un: "Roedd hi'n gymaint o hwyl, yn dalentog a chlyfar - mae'n dorcalonnus oherwydd roedd ganddi fywyd mor wych o'i blaen.

"Roedd hi mewn coma am amser hir ac roedd pawb yn gweddïo y byddai'n dod at ei hun.

"Mae'n rhaid taw hwn oedd y profiad gwaetha' posib i'w theulu pan glywon nhw nad oedd unrhyw obaith."

Mae disgwyl i Grwner Caerdydd agor cwest yr wythnos hon.