Gwahardd smocio o dir ysbytai Bwrdd Iechyd Cwm Taf

  • Cyhoeddwyd
YsmyguFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Fydd yna ddim hawl i ysmygu ar diroedd ysbytai Bwrdd Iechyd Cwm Taf

Fydd gan bobl ddim hawl i ysmygu ar diroedd rhai o ysbytai Cymru o ddydd Mawrth ymlaen.

Dywed Bwrdd Iechyd Cwm Taf fod y gwaharddiad yn effeithio ar ysbytai yn siroedd Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

Bydd y rheol yn effeithio cleifion, ymwelwyr staff a chontractwyr ac yn eu gwahardd rhag ysmygu mewn ysbytai, meysydd parcio, clinigau a chanolfannau iechyd.

Dywedodd Nicola John, cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Fel bwrdd iechyd mae gennym gyfrifoldeb i hyrwyddo safon byw iachus, a'r peth pwysicaf y gallai pobl wneud i wella eu hiechyd yw rhoi'r gorau i ysmygu.

"Ysmygu sy'n achosi'r nifer fwyaf o farwolaethau buan a salwch yng Nghymru ac rydym am i'r polisi newydd leihau nifer y bobl sy'n smocio."

Lleihau

"Mae nifer o bobl wedi mynegi pryder am anadlu mwg ail law wrth gerdded drwy fynedfeydd ysbytai lle mae pobl yn ysmygu.

"Bydd y polisi newydd yn sicrhau na fydd hyn yn digwydd."

Mae arwyddion newydd yn gwahardd ysmygu wedi ei gosod ar dir sy'n eiddo i'r bwrdd yn cynnwys Ysbyty Tywysog Charles, Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty Cwm Cynon ac Ysbyty Cwm Rhondda.

Yn ôl Cynllun Gweithredol Llywodraeth Cymru ar Dybaco y nod yw lleihau nifer y bobl sy'n ysmygu o 16% erbyn 2020.

Yng Nghwm Taf byddai hynny gyfystyr a 26,000 o bobl yn rhoi'r gorau i ysmygu o fewn wyth mlynedd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol