Gyrru: Dirwyon am fod heb y dogfennau cywir

  • Cyhoeddwyd
Llys Ynadon Dolgellau
Disgrifiad o’r llun,
Roedd yr achos yn Llys Ynadon Dolgellau

Mae ynadon wedi beirniadu perchnogion cwmni bysus am beidio â sicrhau bod dogfennau gyrrwr yn briodol.

Clywodd Llys Ynadon Dolgellau fod swyddogion yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr wedi stopio bws ysgol yn Y Frongoch ger Y Bala ar Hydref 21, 2011.

Ond roedd gan Michael John Beards, 60 oed o Flaenau Ffestiniog, drwydded ar gyfer bws awtomatig yn unig.

Dywedodd yr erlynydd, Simon Jenkins, nad oedd trwydded Beards yn caniatáu iddo ddefnyddio gêr llaw.

Ddim yn ddilys

Felly nid oedd yr yswiriant yn ddilys.

Plediodd Beards yn euog i gyhuddiad o yrru heb yswiriant ac felly heb drwydded ddilys.

Hefyd plediodd John Richard Edwards ac Anwen Peregrine Edwards, cyd-berchnogion John's Coaches yn euog i gyhuddiad o ganiatáu i Michael John Beards yrru bws heb yswiriant a heb drwydded yrru ddilys.

Dywedodd Alun Pugh, cadeirydd y llys, ei fod a'i gyd-ynadon yn siomedig nad oedd y diffynyddion yn y llys.

'Difrifol iawn'

"Mae hwn yn fater difrifol iawn gan fod plant ysgol yn cael eu cludo ac mae dyletswydd ar y cyflogwyr sicrhau bod dogfennau'r gyrwyr yn ddilys."

Cafodd y perchenogion ddirwy o £280 am beidio â sicrhau yswiriant dilys ac £80 am beidio â sicrhau trwydded yrru ddilys.

Bydd rhaid i'r perchnogion dalu costau o £300 a £15 o ordal.

Nodwyd chwe phwynt ar eu trwydded.

Cafodd gyrrwr y bws ddirwy o £110 am yrru bws heb yswiriant a £40 am fod heb ddogfennau dilys.

Rhaid iddo dalu costau o £100 a £15 o ordal.

Nodwyd chwe phwynt ar ei drwydded.