'Angen ystyried trethi busnes i Gymru'

Wrecsam
Image caption Un o amcanion yr adroddiad oedd ystyried sut y gallai trethi busnes hybu'r economi

Mae'r Gweinidog Busnes, Edwina Hart, wedi cyhoeddi adolygiad annibynnol ar drethi busnes yng Nghymru.

Un argymhelliad yn adroddiad Yr Athro Brian Morgan yw galw ar Gomisiwn Silk i ystyried datganoli trethi busnes i Gymru.

Fe ofynnodd y gweinidog i'r athro o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd gadeirio grŵp ac edrych ar sut y gallai'r system drethi busnes ddatblygu'r economi.

Mae 'na 19 o argymhellion yn yr adroddiad, Adolygiad Trethi Busnes Cymru: Cymell Twf, gan gynnwys y dylai awdurdodau lleol gadw unrhyw incwm enillwyd yn eu hardaloedd - a bod Llywodraeth Cymru yn lobïo'r llywodraeth ganolog i gadw'r cynllun Trethi Busnesau Bach ar ôl Mawrth 2013.

Trethi busnes yw trethi ar eiddo sydd ddim yn gartrefi. Awdurdodau lleol sy'n casglu'r arian cyn ei ail-ddosbarthu ymhlith cynghorau fel rhan o setliad blynyddol Llywodraeth Cymru.

Wrth gyhoeddi'r adroddiad, dywedodd Ms Hart wrth Aelodau Cynulliad y byddai'n ymateb i'r argymhellion ar ôl ymgynghori gyda'r cabinet dros yr haf.

Dywedodd fod yr Athro Morgan wedi trafod yr argymhellion gyda busnesau ac eraill â diddordeb yn y maes.

'Heriol'

"Fe wnes i roi cylch gwaith clir a heriol i'r grŵp - edrych sut y gallai trethi busnes gael eu defnyddio ar gyfer twf economaidd," meddai Ms Hart.

Dywedodd fod yna negeseuon clir yn sail i'r argymhellion oedd yn canolbwyntio ar yr hyn fyddai'n realistig, ymarferol a chyraeddadwy.

"Gan fod nifer o'r argymhellion yn cyffwrdd mwy nag un portffolio gweinidogol, bydd angen i ni ymateb fel llywodraeth.

"Rwy' eisoes wedi ysgrifennu at gydweithwyr yn y cabinet i ddechrau'r broses honno.

"Hefyd rwy' wedi gwahodd yr Athro Morgan i agor deialog gyda rhanddeiliaid allweddol.

'Nid y diwedd'

"Rwy' am iddo egluro'i ganfyddiadau a gofyn am adborth nifer o bartneriaid, gan gynnwys cadeiryddion Ardaloedd Menter, Panelau'r Sector ac eraill.

"Dechrau'r ddeialog yw'r adroddiad hwn - nid y diwedd.

"Mae llawer i ni ei ystyried wrth edrych ar yr heriau i greu system well, fwy atebol a chystadleuol ar gyfer ardrethi busnes yng Nghymru."

Roedd yr adroddiad yn pwysleisio, meddai, mai prif swyddogaeth ardrethi busnes oedd codi arian er mwyn darparu gwasanaethau lleol.

"Yn y cyd-destun hwn rydyn ni'n argymell cadw incwm o ardrethi busnes yn lleol er mwyn annog awdurdodau lleol i gynyddu eu sylfaen drethi.

"Er bod gostyngiadau ardrethi busnes yn rhan bwysig o'r fframwaith polisi, rydyn ni'n pwysleisio nad ydyn nhw'n ateb pob problem adfywio economaidd."

Ddim yn talu

Dywedodd Cymdeithas y Cyflogwyr nad oedd y system bresennol yn helpu awdurdodau lleol i hybu twf.

Mae'r swm sy'n cael ei dalu gan fusnesau yn dibynnu ar werth trethiannol yr eiddo er bod rhai'n talu llai o dan gynllun arbennig i fusnesau bach.

Ar hyn o bryd, dyw busnesau gyda gwerth trethiannol o lai na £6,000 ddim yn talu, gyda gostyngiadau pellach ar gael i'r rhai â gwerth trethiannol o hyd at £12,000.

Bydd y system hon yn cael ei newid ym mis Mawrth.

Trothwy

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig am i'r trothwy peidio â thalu trethi busnes fod yn £12,000 - gyda chymhorthdal o hyd at £15,000.

Dywedodd eu llefarydd ar fusnes, Nick Ramsay AC: "Rydym wedi galw am fwy o gymhorthdal trethi busnes ers tro, a dyma'r ffordd hawsaf o gael arian yn ôl i fusnesau bach er mwyn eu helpu i ddatblygu.

"Twf yn y sector preifat yw'r allwedd i greu swyddi yng Nghymru, ac mae busnesau bach yn enwedig yn haeddu llawer mwy o gefnogaeth gan y llywodraeth."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.