'Her ariannol anferth' i gynghorwyr

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys Cyngor Sir y Fflint
Disgrifiad o’r llun,
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gwybod eu bod yn wynebu diffyg o £2.3 miliwn y flwyddyn nesaf

Bydd cynghorwyr Sir y Fflint yn cael rhybudd bod yr awdurdod yn wynebu diffyg ariannol o rhwng £17.5 a £19.5 miliwn o bunnau yn y ddwy flynedd o 2013 i 2015.

Dywedodd arweinydd newydd y cyngor, y Cynghorydd Llafur Aaron Shotton, y bydd rhaid i'r cyngor baratoi am "frwydr anferth" i gadw gwasanaethau rheng flaen.

Ychwanegodd bod y diffyg oherwydd toriadau gan lywodraeth y DU, chwyddiant a phwysau arall.

Ddydd Mawrth bydd cabinet y cyngor yn cynnal eu cyfarfod cyntaf ers i Lafur ennill rheolaeth o'r awdurdod mewn partneriaeth â grŵp o gynghorwyr annibynnol, wedi iddyn nhw ennill 31 sedd yn etholiad mis Mai.

'Her ddigyffelyb'

Ychwanegodd y Cynghorydd Shotton y byddai'r awdurdod yn gwneud popeth posib i osgoi toriadau i wasanaethau rheng flaen.

"Mae'r cyngor yn wynebu her ariannol ddigyffelyb ac anferth dros y ddwy flynedd nesaf.

"Y broblem yn y dyfodol agos yw sut i amddiffyn a gwarchod yr hyn sydd gennym.

"Mae'r bygythiad yn real a'r her yn anferth ond yn un yr ydym yn barod i'w derbyn."

Roedd Mr Shotton yn honni nad oedd y glymblaid oedd yn rheoli'r cyngor cyn mis Mai wedi gosod cynlluniau mewn lle i ddelio gyda'r toriadau, ond gwadwyd hyn gan y cyn arweinydd, y Cynghorydd Arnold Woolley, oedd yn mynnu fod ei weinyddiaeth wedi bod yn gall gyda'u cyllid ac wedi "cynllunio'n ofalus yn ariannol".

'Pwysau anochel'

Bydd adroddiad fydd gerbron cynghorwyr ddydd Mawrth yn dweud bod y cyngor yn wynebu diffyg o £2.3 miliwn y flwyddyn nesaf, gyda hynny'n codi i £5.3m y flwyddyn ganlynol.

Yn ogystal â hyn, rhaid i'r awdurdod ddod o hyd i hyd at £6m bob blwyddyn i gwrdd â "phwysau anochel" gan gynnwys chwyddiant, cytundeb cyflogau, costau benthyg a diwygiadau i'r wladwriaeth les.

Ar hyn o bryd cyllideb flynyddol y cyngor yw £281 miliwn, sy'n cynnwys £184m o arian canolog, grantiau o £39m a £57m o drethi cyngor.

Dywedodd prif weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett: "Mae'r diffyg sy'n cael ei ragweld yng nghyllideb refeniw'r cyngor oherwydd toriadau mewn arian o'r llywodraeth a phwysau arall ar wasanaethau tua £17.5-£19.5 miliwn o bunnau am y ddwy flynedd 2013/14 a 2014/15 fel sy'n cael ei amlinellu yn yr adroddiad."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol