Llifogydd: Ymchwilio i wenwyn dŵr

  • Cyhoeddwyd
Cwm Rheidol mineFfynhonnell y llun, Environment Agency
Disgrifiad o’r llun,
Caeodd mwynglawdd Cwm Rheidol cyn y Rhyfel Byd Cyntaf

Bydd gwyddonwyr yn ymchwilio i'r posibilrwydd bod llifogydd yn ardal Aberystwyth wedi llygru'r tir o amgylch oherwydd metelau niweidiol o hen fwyngloddiau.

Mae'n bosib fod ochrau afonydd oedd yn cynnwys metelau gwenwynig fel plwm, sinc a chadmiwm ers cenedlaethau wedi cael eu herydu, gan ollwng y tocsinau i'r dŵr.

Bydd tîm o Brifysgol Aberystwyth yn archwilio ardaloedd afonydd Leri, Rheidol ac Ystwyth.

Mae pryder y gallai'r llygru achosi risg i dir pori, anifeiliaid a chnydau.

Bu llifogydd mewn rhannau o Geredigion ddydd Sadwrn gyda lefelau afonydd yn uwch nag erioed yn yr ardal.

Mae ymgyrch lanhau anferth wedi dechrau yn Aberystwyth a phentrefi Talybont, Dôl-y-bont a Llandre gerllaw.

Pryder

Y pryder yw bod y glaw trwm wedi llygru gorlifdir o gwmpas Aberystwyth.

Mae nifer o fwyngloddiau sydd wedi cau ers tro yn yr ardal, ac mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi bod yn gweithio ar gynllun i leihau lefel y metelau gwenwynig sy'n mynd i Afon Rheidol o'r mwyngloddiau.

Mae'r Athro Mark Macklin o adran ddaearyddiaeth Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn astudio'r pwnc, a dywedodd:

"Roedd llawer o fwyngloddiau metel yng Ngheredigion, ond fe ddaeth llawer o'r gwaith i ben cyn y Rhyfel Byd Cyntaf.

"O ganlyniad, mae afonydd ac ochrau afonydd yr ardal wedi cael eu llygru i lawr at y môr, ond ein pryder yw y gallai'r llifogydd fod wedi cynyddu lefel y llygru."

Ychwanegodd yr Athro Macklin y gallai grym y llif fod wedi erydu ochrau'r afonydd gan ryddhau'r metelau i lifo i lawr yr afon a'u gadael ar orlifdiroedd.

"Mae pryder hefyd y gallai tir fferm fod wedi cael ei lygru, ac fe allai hyn achosi risg i anifeiliaid a chnydau," meddai.

"Byddwn yn dechrau archwiliad o'r gorlifdir ddydd Mawrth. Byddwn yn dechrau dadansoddi samplau, gan obeithio y bydd gennym atebion ymhen rhyw fis."

Cynllunio

Ffynhonnell y llun, Keith Morris
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Siop Morrisons yn yr ardal o dan ddŵr

Yn y cyfamser, mae un o swyddogion cynllunio Cyngor Ceredigion wedi cydnabod y gallai cais cynllunio i godi tai ar y gorlifdir yn Aberystwyth fod wedi cael ei ystyried yn wahanol pe bai'n cael ei gyflwyno heddiw.

Cafodd tai ym Mharc y Llyn sêl bendith y cyngor yn 1994.

Bu llifogydd yn yr ardal dros y penwythnos gan orfodi rhai busnesau a manwerthwyr i gau dros dro, ond ni wnaeth tai ar y safle ddiodde'.

Cafodd canllawiau cynllunio eu newid yn 2004.

Dywedodd Russell Hughes-Pickering, cyfarwyddwr cynorthwyol cynllunio Cyngor Ceredigion:

"Mae'r system gynllunio yn fwy gofalus na phan gafodd yr eiddo yma ganiatâd yn 1994.

"Rwy'n amau y byddai'r ystyriaeth wedi bod yn wahanol o safbwynt y tai, er nid yr adeiladau busnes efallai."

Ychwanegodd bod yr amddiffynfeydd rhag llifogydd wedi gweithio o safbwynt y tai, ond bod busnesau fel Morrisons a B&Q wedi dioddef.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol