Cwpan Heineken: Her timau Cymru
- Cyhoeddwyd

Leinster enillodd Gwpan Heineken 2012
Mae gan dîm rygbi Gleision Caerdydd grŵp gweddol yng Nghwpan Heineken y tymor nesaf tra bod y Scarlets yn wynebu deiliaid y gwpan Leinster.
Bydd Y Gweilch yn wynebu'r cyn-enillwyr Toulouse.
Bydd newydd-ddyfodiad i'r gwpan, Caerwysg - a orffennodd yn bumped yn y Bencampwriaeth yn Lloegr - hefyd yn wynebu'r Scarlets.
Mae enillwyr y Bencampwriaeth yn Lloegr, Harlequins, yn wynebu Connacht a'r newydd-ddyfodiaid o'r Eidal, Zebre.
Fe fydd y rownd derfynol yn Stadiwm Aviva Dulyn, ar Fai 18 2013.