BBC Cymru Fyw

Apelio am dystion wedi gwrthdrawiad yng Nghaerdydd

Published

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion wedi damwain ffordd yng Nghaerdydd nos Lun.

Fe ddigwyddodd tua 10.30pm ar Ffordd Casnewydd yn y brifddinas.

Cafodd merch 28 oed anafiadau difrifol.

Roedd hi'n teithio mewn car Volkswagen Polo glas ar hyd y ffordd tuag at gyfeiriad Rhymni pan darodd yn erbyn ynys draffig a throi drosodd.

Mae'r ferch yn cael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd ar hyn o bryd.

Bu'n rhaid cau'r ffordd am bron i deirawr wrth i blismyn ymchwilio i'r ddamwain.

Roedd y ffordd yn brysur adeg y ddamwain.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.