Anafiadau wedi damwain bws
- Published
Mae tri o bobl wedi cael eu hanafu wedi i fws daro yn erbyn arwydd ffordd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 11:25am ddydd Mawrth ar ôl i fws Stagecoach fod mewn gwrthdrawiad ar y Stryd Fawr yn Y Coed Duon, Caerffili.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod tri'n cael triniaeth am fân anafiadau.
Anfonwyd difoddwyr o Gefn Fforest, Abercarn a Phontypridd ond doedd dim angen gwneud unrhyw beth ar ôl cyrraedd.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol