Mwy o enedigaethau Cesaraidd yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Mam feichiogFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,
Mae gordewdra yn un o'r rhesymau dros gael genedigaeth Gesaraidd

Mae nifer y genedigaethau Cesaraidd yng Nghymru ymhlith yr uchaf yn Ewrop, yn ôl un o bwyllgorau'r ;lywodraeth.

Roedd swyddogion Swyddfa Archwilio Cymru'n rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad ddydd Mawrth.

Wrth amlinellu ffigurau mamolaeth diweddara' Cymru, dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, fod Sefydliad Iechyd y Byd wedi gosod targedau genedigaethau Cesaraidd ar ryw 15%.

Ond rhybuddiodd fod y gyfradd yng Nghymru yn "sylweddol uwch na hyn".

Yn ôl y ffigurau, roedd y gyfradd yn uwch nag 20% ym mhob un o'r 13 uned mamolaeth obstetrig yng Nghymru.

Gordewdra

Yn ysbytai Singleton, Nevill Hall ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg roedd y ffigwr yn 30% a mwy.

Hefyd roedd Cyfarwyddwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Swyddfa Archwilio, Tracey Davies, yn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor ddydd Mawrth.

Pan ofynwyd pam fod y niferoedd mor uchel yng Nghymru, dywedodd hi fod gordewdra yn ffactor.

'Cynyddu'

"Mae'r byrddau iechyd wedi awgrymu bod mwy a mwy o famau'n ordew, sy'n cynyddu'r siawns o enedigaethau Cesaraidd."

Ond ychwanegodd fod y lefelau gordewdra'n debyg i weddill y DU ac nad hwn oedd yr unig reswm dros nifer uchel y genedigaethau Cesaraidd.

Roedd rhai mamau yng Nghymru yn gofyn am enedigaethau o'r fath, meddai, ond roedd yn cydnabod fod y mwyafrif o'r achosion yn cael eu penderfynu ar sail cyngor meddygol proffesiynol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol