Buddugoliaeth i Gymru yn Awstralia yn erbyn ACT Brumbies
- Cyhoeddwyd

ACT Brumbies 15-25 Cymru
Mae tîm Cymru wedi ennill ychydig o hunan hyder ar ôl buddugoliaeth yn eu hail gêm yn Awstralia yn erbyn yr ACT Brumbies yn y brif ddinas Canberra.
Perfformiad hanner cyntaf Cymru wnaeth osod seiliau'r fuddugoliaeth yn erbyn un o dimau'r Pymtheg Disglair, sef un o 15 tîm gorau Awstralia, Seland Newydd a De Affrica.
Roedd Cymru 19-6 ar y blaen ar yr egwyl gyda James Hook, Justin Tipuric ac Alun Wyn Jones yn croesi'r llinell.
Luke Charteris oedd yr unig chwaraewr i ddechrau'r gêm o'r 15 wnaeth golli i Awstralia 27-19 yn y gêm brawf gyntaf ddydd Sadwrn diwethaf.
Seiliau'r fuddugoliaeth yn erbyn y Brumbies oedd goruchafiaeth pac Cymru yn enwedig yn yr hanner cyntaf.
Symudiad llyfn
Roedd y prop Paul James yn rhoi amser anodd iawn i'w wrthwynebydd Scott Sio.
Daeth y cais cyntaf ar ôl symudiad llyfn gan Gymru welodd y bêl wrth ymyl y llinell gais.
Daeth y bêl i Hook wnaeth guro clo capten y Brumbies, Ben Hand, i groesi.
Wedi'r ail chwarae fe wnaeth tacl gref gan Josh Tunrbull sicrhau'r meddiant i Gymru.
Ar ôl rhediad egniol gan Ashley Beck roedd Tipuric wrth law i sgorio.
Roedd Beck hefyd yn allweddol yn y drydedd sgôr, unwaith eto yn rhwygo'r amddiffyn a'r capten Alun Wyn Jones wrth law i groesi'r llinell.
Yn yr ail hanner fe ddaeth Ian Evans, sydd newydd briodi ac yn hwyr yn ymuno â'r garfan wreiddiol, i'r cae yn lle Alun Wyn Jones.
Tarodd Brumbies yn ôl yn yr ail hanner drwy esgid Holmes.
Ond fe wnaeth ciciau cosb gan Hook sicrhau fod yna ddigon o fwlch rhwng y ddau dîm.
Bydd yr ail brawf yn erbyn Awstralia yn Melbourne dydd Sadwrn gyda'r gêm olaf yn Sydney ar Fehefin 23.
ACT Brumbies: Robbie Coleman; Cam Crawford, Tevita Kuridrani, Andrew Smith, Kimami Sitauti; Zack Holmes, Ian Prior; Ruaidhri Murphy, Anthony Hegarty, Scott Sio, Leon Power, Ben Hand (capt), Peter Kimlin, Colby Faingaa, Ita Vaea.
Eilyddion: Siliva Siliva, JP Pradaud, Dylan Sigg, Fotu Auelua, Beau Mokoputo, Tom Cox, Jesse Mogg.
Cymru: Liam Williams; Harry Robinson, Andrew Bishop, Ashley Beck, Aled Brew; James Hook, Rhys Webb; Paul James, Richard Hibbard, Rhodri Jones, Alun Wyn Jones (capt), Luke Charteris, Josh Turnbull, Justin Tipuric, Aaron Shingler.
Eilyddion: Ken Owens, Rhys Gill, Ian Evans, Gareth Delve, Lloyd Williams, Rhys Priestland, Alex Cuthbert.
Dyfarnwr: Ian Smith
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2012