Cyngor i reoli cynllun Plas Madoc?
- Cyhoeddwyd

Gallai Cyngor Wrecsam gymryd cyfrifoldeb dros gynllun gwrth-dlodi wedi i'r rheolwyr blaenorol hawlio gwerth £50,000 o'r gronfa drwy dwyll.
Mae 'na gais i gynghorwyr gefnogi'r cynllun ar gyfer prosiect Plas Madoc Cymunedau'n Gyntaf, fyddai'n golygu ymestyn y cynllun i ardaloedd ehangach.
Byddai angen sêl bendith Llywodraeth Cymru cyn gweithredu'r cynllun.
Y llynedd cafodd cydlynydd yr elusen, Miriam Beard, ei charcharu am 32 fis ar ôl cyfadde' hawlio arian drwy dwyll.
Ers mis Gorffennaf 2011 mae cynllun Plas Madoc wedi cael ei weinyddu gan Gymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Wrecsam.
Ond, o fis Hydref ymlaen, mae'r cyngor yn awyddus i gyfuno'r prosiect â chynlluniau eraill Cymunedau'n Gyntaf ym mhentrefi Llai, Gwenfro, Penycae a Gwersyllt.
Byddai ail grŵp o brosiectau ym Mharc Caia a Hightown.
Dim arian ychwanegol
Yn ôl adroddiad i gynghorwyr, does 'na ddim arian ychwanegol ar gael ar gyfer y cynllun er bod Llywodraeth Cymru wedi awgrymu y gellid cynnwys rhagor o gymunedau.
"Felly mae'n fwyfwy pwysig fod arian yn cael ei wario ar ddarparu gwasanaethau a gweithio gyda phartneriaid i sicrhau fod y ddarpariaeth yn cydfynd gyda gwasanaethau cyfredol ac yn gwneud y gorau o adnoddau," meddai'r adroddiad.
Cafodd Cymunedau'n Gyntaf ei lansio yn 2001 fel cynllun Llywodraeth Cymru i ddarparu hyfforddiant, addysg a chyfleoedd swyddi mewn ardaloedd difreintiedig.
Y llynedd gorchmynwyd newidiadau i'r modd yr oedd y rhaglen yn cael ei chyflwyno.
Carcharu
Cafodd Miriam Beard ei charcharu ym mis Rhagfyr 2011 ar ôl newid ei phle yn ystod yr achos a phledio'n euog i naw cyhuddiad o dwyll.
Clywodd y llys fod Beard o Henllan yn Sir Ddinbych wedi cymryd arian oedd i fod i gael ei ddefnyddio i wella'r gymuned leol ac wedi ei ddefnyddio er ei lles ei hun a'i theulu.
Mae disgwyl iddi ymddangos gerbron llys eto cyn hir i benderfynu a fydd yn rhaid iddi ad-dalu'r arian.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2010