Lladrad: Chwilio am bum lleidr

  • Cyhoeddwyd
HeddluFfynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r heddlu'n ymchwilio o hyd

Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi i ladron ymosod ar gard diogelwch oedd am ddodi arian i mewn i dwll yn y wal ger archfarchnad Waitrose yng Nghaerdydd.

Dywedodd yr heddlu fod swm o arian wedi ei ddwyn ger yr archfarchnad ym Mhontprennau.

Aed â'r gard i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ond dyw ei fywyd ddim mewn perygl.

Dihangodd pum lleidr mewn fan wen.

Cafodd yr heddlu eu galw fore Mawrth.

Dywedodd Ross Cleland, arolygwr 20 oed yn Waitrose, fod gard diogelwch yr archfarchnad wedi gweld y lladron yn gwisgo balaclafas ychydig cyn y cyrch am 11:40am.

'Gwaedu'

"Ro'n i'n ffonio'r heddlu pan neidiodd y dynion o'r fan.

"Ymosododd y lladron ar gard diogelwch ac achosi iddo waedu.

"Ond llwyddodd ail gard i gloi ei hun yn yr adeilad lle oedd y twll yn y wal."

Dywedodd fod yr holl beth wedi digwydd 20 o droedfeddi i ffwrdd ac o flaen 15 o bobl.