'Teulu gŵr yn bygwth mam ar gyhuddiad o ladd ei mab'
- Cyhoeddwyd

Mae llys wedi clywed bod teulu ei gŵr wedi bygwth menyw cyn iddi gyfaddef ei bod wedi llofruddio'i mab saith oed.
Dywedodd Peter Murphy, bargyfreithiwr Sara Ege, 33 oed o Dreganna, Caerdydd, nad oedd amheuaeth am anafiadau'r mab, Yaseen, ond taw'r gŵr oedd y llofrudd.
Yn Llys y Goron Caerdydd mae hi wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ac o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Eisoes honnodd hi mai ei gŵr 38 oed, Yousuf Ali Ege, laddodd eu mab.
Mae'r tad wedi gwadu cyhuddiad o ganiatáu i blentyn farw drwy fethu â'i amddiffyn.
Cam-drin
Dywedodd Mr Murphy fod Mrs Ege wedi ei cham-drin "yn aml".
Roedd hi wedi bod i'r meddyg teulu sawl gwaith ac roedd meddygon wedi nodi tystiolaeth o drais yn y cartre.
Cafodd corff Yaseen ei ddarganfod wedi tân yn ei gartre yng Ngorffennaf 2010.
Clywodd y llys fod y mab wedi marw oherwydd anafiadau yr un diwrnod.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mai 2012
- Cyhoeddwyd2 Mai 2012
- Cyhoeddwyd1 Mai 2012