Cynghorydd: Gwahardd am chwe mis
- Published
Mae aelod o Gyngor Ynys Môn wedi ei wahardd rhag bod yn gynghorydd am chwe mis.
Y llynedd yn Llys Ynadon Caergybi fe blediodd Hefin Thomas o Bentraeth yn euog i gyhuddiad o beidio â datgan ei incwm fel cynghorydd tra'n hawlio budd-dal anabledd.
Cafodd ddirwy o £750 a gorchymyn i dalu £115 o gostau.
Ddydd Mawrth penderfynodd pwyllgor safonau'r cyngor ei fod wedi torri cod ymddygiad y cyngor.
Roedd Mr Thomas wedi cynrychioli Pentraeth ers 1995.
Yr Adran Waith a Phensiynau oedd wedi dwyn achos yn ei erbyn ond cafodd y cyhuddiad ei leihau ar ôl i'r erlyniad dderbyn mai trwy gamgymeriad yr oedd wedi hawlio'r arian yn hytrach na thrwy anonestrwydd.
Straeon perthnasol
- Published
- 12 Ebrill 2011