Post Brenhinol am gael newid y rheol

  • Cyhoeddwyd
Y Post BrenhinolFfynhonnell y llun, Royal Mail
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y cynllun ei dreialu mewn sawl ardal gan gynnwys Abertawe

Bydd y Post Brenhinol yn gofyn am newid rheolau fydd yn eu caniatáu i adael eitemau gyda chymdogion pan na fydd y person sydd i fod i dderbyn yr eitem adref.

Daw hyn ar ddiwedd cynllun prawf 'llwyddiannus' mewn nifer o ardaloedd gan gynnwys Abertawe.

Ar hyn o bryd, y Post Brenhinol yw'r unig gwmni delifro sydd heb yr hawl i adael eitemau gyda chymdogion fel mater o arfer cyffredin.

Bydd y cwmni nawr yn gofyn i Ofcom - y corff rheoleiddio'r diwydiant - i addasu'r rheolau gan ganiatáu i'r cynllun gael ei ymestyn yn ddiweddarach eleni.

Cafodd y cynllun ei dreialu yn ardaloedd Abertawe, Caeredin, Gatwick, Hull, Norwich, Wigan a Bolton.

Ddydd Mercher mae'r Post Brenhinol wedi cyhoeddi canlyniadau arolwg o bobl oedd yn rhan o'r cynllun prawf yn Abertawe.

'Hwylustod'

Mae'r canlyniadau yn dangos :-

  • Bod 90% o bobl Abertawe a gafodd eitemau wedi eu gadael gyda chymydog pan nad oedden nhw adre yn hapus gyda'r profiad;
  • Bod 93% o bobl yn Abertawe a dderbyniodd eitemau ar ran cymydog pan nad oedden nhw adre yn hapus gyda'r profiad;
  • Bod y Post Brenhinol yn croesawu ymchwil gan Lais Defnyddwyr Cymru sy'n dweud bod hwylustod y gwasanaeth wedi gwella i gwsmeriaid.

Dywedodd Darren Gregory o'r Post Brenhinol: "Mae canlyniadau'r cynllun prawf wedi bod yn galonogol dros ben.

"Mae cwsmeriaid yn gwerthfawrogi'r hwylustod o fedru gadael eitemau gyda chymdogion os nad ydyn nhw adre i'w derbyn.

"Mae'r Post Brenhinol nawr yn gofyn am newid y rheolau er mwyn caniatáu i ni ymestyn y cynllun dros weddill y DU er lles ein cwsmeriaid."

Byddai newid y rheolau yn dibynnu ar ymgynghoriad cyhoeddus gan Ofcom, ac yna fe fyddai'n rhaid i'r Post Brenhinol ysgrifennu at bob cyfeiriad i ddarparu gwybodaeth am y cynllun, gan gynnwys manylion am sut i beidio bod yn rhan o'r cynllun os mai dyna eu dymuniad.