Cynllun cau ysgolion yn 'ddiffygiol'

  • Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau i benodi panel i wneud penderfyniadau am gau ysgolion yn hytrach na Gweinidogion yn "ddiffygiol iawn," yn ôl cyfreithiwr amlwg.

Dywedodd Michael Imperato y gallai'r newid arwain at yr hyn y mae'n eu disgrifio fel "llysoedd cangarŵ" i benderfynu os fydd ysgolion yn uno neu yn cau.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno'r newid fel rhan o'i Mesur Safonau a Threfniadaeth Ysgolion.

Ar hyn o bryd, os oes gwrthwynebiad i benderfyniad gan gyngor am ad-drefnu ysgolion, Gweinidogion y Llywodraeth sy'n gwneud penderfyniad ar y mater - proses all gymryd dros flwyddyn.

'Stamp rwber'

Yn ôl y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, nod sefydlu Panelau Penderfyniadau Lleol (PPL) yw cyflymu'r broses benderfynu ynghyd â gwella atebolrwydd lleol.

O dan y cynllun, y PPL fyddai'n penderfynu ar unrhyw apêl, ac ni fyddai gweinidogion yn cael ymyrryd oni bai am achosion o gamweinyddu.

Ond yn ei dystiolaeth i'r pwyllgor sy'n craffu'r mesur, dywedodd Mr Imperato bod dim modd gweithredu'r cynllun, ac y byddai'n arwain at gyfres o adolygiadau barnwrol.

Dywedodd: "Rhaid i mi ddweud bod y PPL yn debyg o gael eu gweld fel llysoedd cangarŵ o wroniaid lleol yn rhoi stamp rwber ar benderfyniad sydd eisoes wedi ei wneud gan wroniaid lleol eraill.

"Nid wyf yn credu bod gan y sustem unrhyw werth wrth gyflymu'r broses nac arbed arian.

'Camgymeriadau'

"Yn wir rwy'n credu y bydd yn anochel yn fwy beichus ac yn fwy costus. Rwy'n ystyried y bydd yn arwain at lawer mwy o adolygiadau barnwrol nag sy'n digwydd yn barod.

"Bydd y PPL yn gwneud camgymeriadau, ac fe fydd heriau am eu cyfansoddiad, rôl a phenderfyniadau'r clerc ac yn y blaen.

"Fe fydd PPL yn arwain at y gwrthwyneb i'r hyn y maen nhw'n ceisio cyflawni, does gen i ddim amheuaeth o hyn. Pam cyflwyno system lled-gyfreithiol i gymryd lle proses weinyddol glir a hawdd ei reoli? Does dim synnwyr yn y peth.

"Hefyd rwy'n ystyried y bwriad o ddiddymu rôl beirniad sy'n amlwg yn annibynnol a chyflwyno PPL yn un sy'n agored i her o dan gyfraith hawliau dynol gan ei fod mor amlwg yn ddiffygiol iawn."

Ychwanegodd Mr Imperato bod yr amcangyfrif o £250 fel cost bob cyfarfod o PPL gymaint allan ohoni fel ei fod yn embaras.

Ymateb

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Mae'r Mesur ar hyn o bryd yn mynd drwy'r rhan gyntaf o broses graffu'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae tystiolaeth Mr Imperato i'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn rhan o'r broses.

"Rydym yn croesawu'r craffu ar yr argymhellion yn y Mesur, ac fe fyddwn yn ystyried yr holl dystiolaeth a fydd yn cael ei chyflwyno i'r pwyllgor ar yr amser priodol.

"Rydym yn hyderus bod y Mesur yn ymateb cadarn a rhesymegol i faterion sy'n wynebu'r system addysg yng Nghymru, ac yn credu bod yr argymhellion ynddo yn taro cydbwysedd rhwng gweithredu yn lleol ac yn genedlaethol i wella safonau."