Hawl i ddefnyddio parth .cymru?
- Cyhoeddwyd
Bydd y corff sy'n rheoli cyfeiriadau'r we yn cyhoeddi ddydd Mercher pa barthau newydd fydd yn cael eu defnyddio yn y dyfodol.
Mae ymgyrch wedi bod i geisio sicrhau bod gan bobl yr hawl i ddefnyddio Cymru neu Wales ar eu cyfeiriad rhyngrwyd.
Daw'r cyhoeddiad yn sgil penderfyniad i ehangu'r nifer o gyfeiriadau sydd ar gael fel '.com, '.net' a '.org'.
Mae'r ceisiadau i Icann, y corff rhyngrwyd rhyngwladol, yn amrywiol iawn, gan gynnwys .web .africa .cymru a .beer.
Dywedodd arweinydd cais .Cymru, Siôn Jobbins, ei fod yn "hyderus iawn" y bydd y cais am yr hawl i ddefnyddio enwau parth '.cymru' a '.wales' yn llwyddiannus.
Gwnaed y cais am yr enwau '.cymru' a '.wales' gan Nominet, corff cofrestru'r Deyrnas Unedig.
Deellir y gallai'r ceisiadau i Icann ar gyfer enwau unigol gostio hyd at £120,000 yr un.
Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fyddan nhw'n talu am unrhyw geisiadau.
Straeon perthnasol
- 23 Rhagfyr 2011
- 9 Tachwedd 2011
- 3 Tachwedd 2010
- 6 Awst 2008