Lladrad: Cyhuddo trydydd dyn
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent wedi cyhuddo trydydd dyn mewn cysylltiad â lladrad o fwyty ym Mhentwyn-mawr ger y Coed-Duon.
Fe gafodd swm sylweddol o arian ei ddwyn o fwyty Taste of India nos Sul Ebrill 22.
Fe fydd y dyn 19 oed o'r Coed Duon yn ymddangos gerbron ynadon Caerffili fore Mercher.
Mae dyn 21 oed o Grymlyn, ac un arall sy'n 23 oed o Bontllanfraith eisoes wedi ymddangos gerbron ynadon Caerffili.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle ar 0800 555111.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol